Translate:
BWCIWCH 07794040699 dalloyd@carmarthentowncouncil.gov.uk BOOK 07794040699
EN
Translate:
BWCIWCH 07794040699 dalloyd@carmarthentowncouncil.gov.uk BOOK 07794040699
AMODAU DEFNYDDIO FELODROM CAERFYRDDIN
1. Mae’r felodrom yn cael ei rheoli gan Gyngor Tref Caerfyrddin (CTC);
2. Gall CTC ganslo’r defnydd o’r trac seiclo heb unrhyw rybudd (e.e. yn ystod tywydd garw os bydd y trac yn anniogel);
3. Bydd seiclwyr yn defnyddio’r felodrom ar risg eu hunain a rhaid ar bob adeg cydymffurfio gyda’r amodau defnyddio yma.
4. Rhaid i seiclwyr ddefnyddio’r cyfleuster mewn modd cyfrifol a gydag ystyriaeth ddyladwy i ddefnyddwyr eraill;
5. Dylai seiclwyr seiclo mewn cyfeiriad gwrthglocwedd ar bob adeg;
6. Ni ddylai fod cymysgedd o seiclo ‘fixed wheel’ a ‘free wheel’ ar yr un pryd;
7. Rhaid i seiclwyr gyflenwi beiciau eu hun a dylai'r rhain fod yn lan ac mewn cyflwr da a diogel i ddefnyddio - mae CTC yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i a defnydd o’r trac seiclo os yw’r beiciau i weld mewn cyflwr annheilwng neu’n debygol o niweidio’r cyfleuster;
8. Rhaid i bob seiclwr wisgo helmed a menig wrth seiclo ar y trac;
9. Cyfrifoldeb y defnyddwyr yw sicrhau a ddylsent ymgymryd â’r trac cyn ei ddefnyddio. Dylai adrodd unrhyw bryderon wrth Gyngor Tref Caerfyrddin .
10. Rhaid i grŵp o dri seiclwr neu mwy i fod gyda hyfforddwr cymwysedig;
11. Dylai plant 11 mlwydd oed ac o dano fod o dan oruchwyliaeth oedolyn drwy’r amser;
12. Ni chaniateir seiclo tra bo digwyddiadau awdurdodedig yn cymryd lle ar y cae rygbi;
13. Ni chaniateir mynediad i’r cae rygbi tra bo ‘Defnydd Neilltuedig’ awdurdodedig o’r felodrom yn cymryd lle (gweler 15 isod).
14. CYFNODAU ‘DEFNYDD AM DDIM I’R CYHOEDD’
Gall aelodau’r cyhoedd ddefnyddio’r trac seiclo (ond nid yr ystafelloedd newid) yn rhad ac am ddim (yn amodol ar amgylchiadau’r defnydd) o ddydd Llun hyd at ddydd Gwener rhwng 9am a 6pm, Dydd Sul (trwy’r dydd) ac yn ystod adegau penodol arall fel penderfynwyd gan CTC (e.e. rhai digwyddiadau a sesiynau darged o dan hyfforddiant).
15. LLOGI GAN GRŴP A ‘DEFNYDD NEILLTUEDIG’ ARALL O’R TRAC SEICLO
Rhaid i bob ‘defnydd neilltuedig’ o’r trac seiclo gan unigolion neu grwpiau gael eu hawdurdodi gan CTC a’I llogi ymlaen llaw drwy’r system llogi ar lein ar wefan CTC - www.carmarthentowncouncil.gov.uk neu drwy ffonio 01267 235199. Fe godi’r tâl am y fath ddefnydd (gweler isod).
a. Mae ‘Grŵp’ yn golygu bod tri pherson neu mwy yn defnyddio’r trac seiclo ar yr un pryd (ac eithrio’r hyfforddwr);
b. Rhaid i bob grŵp sy’n defnyddio’r trac fod gyda hyfforddwr seiclo sydd yn gymwysedig ac achrededig gan Beicio Cymru. Nid yw CTC yn darparu hyfforddwyr heblaw ar gyfer ddigwyddiadau dynodedig;
c. Ni chaniateir grŵp o fwy na ugain seiclwr ar y trac seiclo ar yr un pryd.
16. COSTAU
Mae’r gost am bob awr o ddefnydd neilltuedig o’r felodrom â’r cyfleusterau (gan gynnwys mynediad i’r ystafelloedd newid a’r cawodau) fel y canlyn:
Dim Llifoleuadau Gyda Llifoleuadau
Pob Defnyddiwr £25.00 £30.00
Defnydd Corfforedig £50.00 £70.00
Cyfradd Ddyddiol £150.00
* Ni chodir tal am ganslo bwciad ond bod y defnyddwyr yn rhoi o leiaf 48 awr o rybudd i CTC am y canslad.
17. IECHYD A DIOGELWCH
Cyfrifoldeb y defnyddwyr yw sicrhau a ddylsent ymgymryd â’r trac cyn ei ddefnyddio. Dylai adrodd unrhyw bryderon wrth Gyngor Tref Caerfyrddin. Dylai unrhyw un sydd yn profi ymddygiad anghymdeithasol wrth ddefnyddio’r felodrom adrodd y mater i’r heddlu ar 101 neu mewn mater brys drwy ffonio ‘999’